Перейти к содержимому

Gwilym x Hana Lili - cynbohir

S4C Miwsig

0:00 / 0:00

Gwilym x Hana Lili - cynbohir

20 566 просмотров · 4 года назад
S4C Miwsig
4,84 тыс. подписчиков
20 566 просмотров · 4 года назад
Mae’r band indie-pop Gwilym yn ôl gyda’u sengl newydd sbon ‘cynbohir’. ‘cynbohir’ yw’r sengl gyntaf oddi ar eu halbwm hynod ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi’i bensilio ar gyfer yr Hydref. Er ei fod yn dal yn arwyddocaol o elfennau poblogaidd y band (alawon bachog sy’n sicr o fyw yn ‘rent-free’ yn eich pen drwy’r haf) mae ‘cynbohir’ yn rhoi cipolwg ar gyfeiriad sonig newydd y pumawd. Mae'r trac yn arddangos un o sêr newydd y sîn pop yng Nghaerdydd - Hana Lili, ac mae’n cael ei ryddhau ar Fehefin 17eg, 2022 trwy'r label annibynnol Recordiau Côsh. Cynhyrchu a Cyfarwyddo - Aled Wyn Jones DOP a Cyfarwyddo - Andy Pritchard Camerau ychwanegol - Sion Gwyn a Jamie Walker Actorion - Steven Andrew a Becca Naiga LYRICS: VERSE 1 Di’r byd ar fai, Am osod hyn o dy flaen di Ti’n un gwael am feddwl am orfeddwl llai, Byw rhwng dau. Dwi’n gaddo fydda a’i ar dy ôl di. Ma’n bryd ini gamu’m mlaen Yn groes i’r graen PRE Ai ni di’r rhai Sy angan bach o ffydd yn ein canol. Ai ni di’r rhai ffôl. CHORUS Cyn yfory, Cyn ‘ni golli, Rhaid ‘ni adal cyn bo hir, Fydd petha’ yn gwella Yfory Ma’n bryd ‘ni godi Rhaid ‘ni adael cyn bo hir, Fydd petha’ yn gwella. VERSE 2 Da ni ar fai Dyfodol i gyd o dy flaen di Ac wrth ‘ni fynd yn hŷn ma’r oriau yn byrhau. Byw rhwng dau, Dwi’n gaddo fyddai ar dy ôl di. Dwi’n mynd a dod Dwi’n gaeth i fy nheimlada’ Ond Sa’m byd yn bod, Ma’ petha’ yn gwella Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Gwasga'r botwm 'Subscribe' TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c